P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kate Worgan, Tots Play Cardiff North, ar ôl casglu cyfanswm o 1,756 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020, roeddem wedi gallu cynnal dosbarthiadau wyneb yn wyneb y tu mewn, gan ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i’r llythyren.

 

Ni chawsom unrhyw achosion o’r feirws yn y dosbarthiadau ac roeddem yn hynod ddiwyd a rhagweithiol o ran creu amgylchedd diogel i ddosbarthiadau, tra hefyd yn darparu’r holl fuddiannau y gall dosbarthiadau eu cynnig i rieni a gofalwyr, a'u plant ifanc.

 

Rydym yn dal i gynnal dosbarthiadau ar-lein ond mae angen dyddiad arnom i allu dod â dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ôl.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn aml, mae plant ifanc wedi cael eu hanwybyddu yn y pandemig hwn, yn yr un modd â’u rhieni.

 

Mae wedi bod yn gryn bryder i ni bod rhieni wedi’u hynysu, ac effaith hynny ar eu hiechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gyda theuluoedd yn byw ymhellach oddi wrth ei gilydd, agwedd hanfodol ar feithrin rhwydwaith cymorth yw gallu cwrdd â rhieni eraill â phlant ifanc, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

 

Bu cyfle i wneud hynny mewn dosbarthiadau babanod ar-lein, ond gall ceisio ymgysylltu â phobl nad ydych wedi cwrdd â nhw eto fod yn anodd.

Mae plant ifanc nad ydyn nhw'n mynd i feithrinfa breifat wedi colli’r cyfle, a'r holl fuddiannau a ddaw o gymdeithasu â babanod a phlant, sy'n rhan enfawr o'u datblygiad.

 

Maen nhw hefyd wedi colli'r cyfle i archwilio gweithgareddau datblygu a bod ar eu hennill yn sgil hynny, ynghyd â gweithgareddau sy'n hybu’r broses o fondio rhwng rhiant a phlentyn.

 

Mae gwir angen i rieni allu ailddechrau ein dosbarthiadau’n ddiogel.

 

At hynny, mae angen hyn arnom ni fel sector, er mwyn i'n busnesau barhau i fod yn hyfyw.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru